Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25

Ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Mae Comisiwn y Senedd yn helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor Senedd Cymru fel senedd gref, hygyrch, gynhwysol a blaengar—sy'n cyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.

Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn nodi sut rydym wedi datblygu blaenoriaethau Comisiwn y Senedd o dan ein nodau strategol.

Ochr yn ochr ag uchafbwyntiau perfformiad a chyflawniadau, mae'r adroddiad yn cynnig adolygiad o'r flwyddyn: sut y gwnaed penderfyniadau, sut y defnyddiwyd adnoddau, a sut y cawsom ein dwyn i gyfrif.

 Mae'r cyfrifon—a gynhyrchwyd yn unol â chanllawiau Trysorlys EM ac a ardystiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru—yn rhan sylweddol o'r adroddiad.

 

 

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Comisiwn wedi gweithio’n gyflymach nag erioed o’r blaen i sicrhau bod yr holl baratoadau angenrheidiol ar waith i groesawu 96 o Aelodau o'r Senedd yn dilyn yr etholiad ym mis Mai.
Cwblhawyd y prosiect uchelgeisiol a heriol i ehangu’r Siambr ar amser, sy'n golygu bod gan yr Aelodau bellach ofod addas at y diben sydd wedi'i gynllunio i sefyll prawf amser.

—
Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
Y Llywydd, Senedd Cymru

 

Darllenwch y rhagair

 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu’r Comisiwn yn cefnogi’r Senedd drwy flwyddyn brysur o ddeddfwriaeth ac ymgysylltiad, gan gynnal safonau uchel o reolaeth ariannol a llywodraethu ac, ar ben hynny, wynebu'r her o baratoi ar gyfer newid mawr.

—
Manon Bonner

Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

 

Darllenwch y cyflwyniad




Mesur cynnydd, paratoi ar gyfer newid

Dadansoddi perfformiad

Rydym yn ymdrechu i ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf, cadw dinasyddion wrth wraidd popeth a wnawn a defnyddio adnoddau'n gynaliadwy.

Mae etholiad eleni yng Nghymru yn gweld un o'r newidiadau mwyaf ers i'r Cynulliad Cenedlaethol ddod i fodolaeth ym 1999, wrth i'r Senedd gynyddu o 60 i 96 o Aelodau.

Darganfyddwch fwy am ein cyflawniadau eleni a sut rydym yn paratoi ar gyfer y Seithfed Senedd.

 

Darllenwch fwy am yr hyn rydym ni wedi bod yn ei wneud eleni

Llun o Siambr y Senedd oddi uchod

Llun yn dangos ymwelwyr yn eistedd mewn digwyddiad yn y Senedd, yn wynebu’r ffenestr flaen tra bod siaradwr ar y llwyfan.

 

 

Llywodraethiant ac atebolrwydd cryf

Llywodraethiant corfforaethol

Mae ein fframwaith llywodraethiant yn nodi sut mae Comisiwn y Senedd yn cael ei lywodraethu a'i reoli—a sut y mae’n atebol am ei weithredoedd.

Mae ein hadroddiad diweddaraf yn dangos sut y mae’r fframwaith hwn wedi cefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion strategol y Comisiwn dros y deuddeg mis diwethaf.


Darllenwch yr adroddiad llawn i gael rhagor o wybodaeth



Trosolwg ariannol

Datganiadau Comisiwn y Senedd 2025-26

Mae ein cyllideb yn cwmpasu costau rhedeg y Senedd, yn ogystal â chostau sy'n gysylltiedig ag Aelodau o’r Senedd—a bennir yn annibynnol gan y Bwrdd Taliadau.

Mae'r Adroddiad Blynyddol yn amlinellu ein perfformiad ariannol a gweithredol dros y flwyddyn.

 

Darllenwch y datganiadau ariannol

Llun yn dangos yr Oriel yn y Senedd gydag arddangosfa yn y cefndir.

Dyn ifanc yn taflu pêl fasged i mewn i gylchyn yn y Senedd.



Senedd sy’n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb

Amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym yn anelu at fod yn sefydliad cynhwysol ac enghreifftiol i'n staff, Aelodau o’r Senedd, a'r cyhoedd a wasanaethwn.

Mae ein Hadroddiad Blynyddol 2025-2026 ar Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y gwaith y mae Comisiwn y Senedd wedi'i wneud i ddathlu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant fel senedd ac fel cyflogwr.

 

Darllenwch fwy am sut rydyn ni'n creu amgylchedd cynhwysol



Gweithlu sy’n cynrychioli Cymru

Gweithlu, recriwtio, adrodd ar y bwlch cyflog ac adroddiad archwiliad cyflog cyfartal

Bob blwyddyn, rydym yn casglu, yn dadansoddi ac yn cyhoeddi data amrywiaeth ar broffil ein gweithlu, gweithgarwch recriwtio a chyflog staff.

Mae'r fewnwelediad hwn yn llunio ein dull o recriwtio a chyflogaeth gynhwysol—gan ein helpu i ddiwallu anghenion amrywiol ein staff, ac adeiladu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cyhoedd a wasanaethwn.

 

Darllenwch ein hadroddiad ar y gweithlu yn llawn

Interniaid o gynllun YMLAEN ar y llwyfan yn y Pierhead yn siarad am eu profiadau yn y Senedd.

Côr ysgol gynradd yn perfformio mewn digwyddiad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y Senedd



Dwyieithog o’r cychwyn cyntaf

Y cynllun ieithoedd swyddogol

Mae ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o'r radd flaenaf yn parhau i fod yn gryf.

Rydym, hefyd, yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau iaith a hyder ar bob lefel o'r sefydliad.

Ac rydym yn agored ynghylch y cynnydd rydym yn ei wneud, fel y gallwch ddilyn ein taith.


Darllenwch am ein hymrwymiad i weithio'n ddwyieithog



Cynyddu nodau, lleihau ôl troed

Cynaliadwyedd

Rydym yn gweithio i wneud gweithrediadau'r Senedd yn garbon niwtral erbyn 2030—sy’n rhan o'n hymrwymiad ehangach i gynaliadwyedd.

Mae ein hadroddiadau ar ddata carbon Cwmpas 3 wedi gwella eleni. Rydym wedi gweithio gyda chyflenwyr a thimau caffael i sicrhau bod y wybodaeth hon yn fwy cynhwysfawr ac yn fwy cywir.

 

Darllenwch fwy am sut rydym yn lleihau ein heffaith amgylcheddol

Close up of a bee orchid flower growing outside the Senedd


Lawrlwytho ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon diweddaraf